Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-13-12 papur 5

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Papur gan y Pwyllgor Deisebau ar ei ymweliad rapporteur ar TAN 8

 

Cofnodion cyfarfod ar TAN 8
27 Chwefror 2012, Mason’s Arms, Gwyddgrug

Yn bresennol:
Mr Stephen Dubé, deisebwr a Chadeirydd Grŵp Blaengwen

Mrs Janet Dubé, deisebwr ac aelod o Grŵp Blaengwen

William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ac aelod o’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Russell George AC, aelod o’r Pwyllgor Deisebau a’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Joyce Watson AC, aelod o’r Pwyllgor Deisebau

 

Hefyd yn bresennol
Abigail Phillips, Clerc y Pwyllgor Deisebau

 

Esboniodd William Powell AC bod y cyfarfod yn cael ei gynnal fel rhan o ymweliad y Pwyllgor Deisebau i Sir Gâr er mwyn ystyried deiseb ar sŵn o dyrbinau gwynt, ond y byddai cofnodion y cyfarfod yn cael eu trosglwyddo i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd fel rhan o’i ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.  

Mynegodd Mr a Mrs Dubé eu pryderon nad oeddent wedi cael cyfle i siarad yn uniongyrchol â’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Esboniodd Mr a Mrs Dubé i’r Aelodau bod Grŵp Blaengwen wedii ffurfio ar ôl i gynigion ar gyfer fferm wynt yn Alltwalis gael eu cyflwyno. Mae gan y grŵp bron i 60 o aelodau syn byw yn ardal Gwyddgrug, ai bwrpas yw monitro ac astudio effeithiau tyrbinau gwynt yn yr ardal leol. Maer grŵp eisoes wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

Roedd Mr a Mrs Dubé yn teimlo y dylai TAN 8 fod wedi cael ei ddiweddaru cyn i’r cynlluniau datblygu lleol gael eu dechrau yn 2011. Nodwyd bod Neville Thomas QC wedi gwneud yr un pwynt i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Yn 2010, ailadroddodd Jane Davidson, y Gweinidog dros Gynaliadwyedd ar y pryd, yr ymrwymiad sydd yn TAN 8 i adolygu’r polisi. Fodd bynnag, nid oes adolygiad o’r fath wedi digwydd, ac mae Mr a Mrs Dubé yn teimlo mai torri’r addewid hwn sydd wedi achosi’r gwrthdystiadau mwyaf yn y Senedd. Maent yn awgrymu bod pob cais ar gyfer lleoli tyrbinau gwynt ychwanegol yn cael ei ohirio hyd nes ar ôl i TAN 8 gael ei adolygu, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

Roedd Grŵp Blaengwen yn teimlo y gallai penderfyniadau ynghylch tyrbinau gwynt gael eu gwneud yng Nghymru pe byddai Llywodraeth Cymru yn annog codi tyrbinau gwynt sy’n cynhyrchu llai na 50 MW.

Yn 2010, cafodd TAN 8 ei ‘adnewyddu’, ond oherwydd na chafodd y cyhoedd wybodaeth am yr ymgynghoriad, ac oherwydd nad oedd cyfle iddynt ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw, mae’r grŵp yn teimlo nad oedd yr ymrwymiad i adolygur polisi wedi cael ei gyflawni a bod diffyg gweithred yn yr achos hwn yn pardduo enw da’r Cynulliad. Nid yw’n glir os oedd yr ymarfer adnewyddu yn 2010 wedi ystyried codi’r targedau mewn perthynas ag ynni. Dywedodd Russell George AC wrth Mr a Mrs Dubé y byddai’n ymdrechu i gynnwys cyfres o lythyrau sydd ym meddiant Grŵp Blaengwen, sy’n dangos ymrwymiad i ymgynghori ar TAN 8, yn adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Roedd Grŵp Blaengwen hefyd yn teimlo y bu methiant yn gynharach yn y broses oherwydd ni chafodd y cyhoedd gyfle i ymateb i ymgynghoriad ynghylch y ddogfen gan ARUP a lywiodd y broses o lunio TAN 8.

Mae Grŵp Blaengwen yn teimlo y dylai pobl leol gael rheolaeth dros dyrbinau gwynt er mwyn iddynt allu eu diffodd pan fo sŵn yn broblem.

Clywodd yr Aelodau bod y targedau dangosol o fewn TAN 8 yn cael eu hystyried i fod yn fater pwysig. Dywedodd  Mr a Mrs Dubé wrth yr Aelodau bod fferm wynt Alltwalis yn barod wedi rhagori ar y targed o 90MW ar gyfer yr ardal chwilio strategol, sy’n cynnwys Gwyddgrug, o dan TAN 8. 

Mynegodd Grŵp Blaengwen ei bryder nad oedd yr arian a ddarparwyd ar gyfer buddion cymunedol o ganlyniad i’r fferm wynt yn dod â budd i’r rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan y tyrbinau. Roedd y grŵp yn teimlo ei fod yn annheg nad y Cyngor Cymunedol a oedd yn gallu cael yr arian, ac mae grŵp a sefydlwyd gan Statkraft, perchennog fferm wynt Alltwalis, a benderfynodd sut y dylai’r arian gael ei wario. Mae’r grŵp hwnnw, sef y Pwyllgor Buddion Cymunedol, yn seiliedig ar ward y cyngor sir ac yn cynnwys cymuned nad ywn gallu gweld y tyrbinau ac sydd heb ei heffeithio gan y sŵn. Nid oedd unrhyw un o Wyddgrug yn aelod or Pwyllgor Buddion Cymunedol i ddechrau oherwydd nid oeddent yn dymuno  bod yn rhan ohono, ond maent wedi ymuno ers hynny oherwydd eu bod yn teimlo bod rhaid iddynt wneud hynny.  Hefyd, dywedodd y grŵp nad oedd unrhyw fesurau lleihau carbon wedi’u cyflwyno gan y gronfa gymunedol. Oherwydd natur wirfoddol y taliadau i’r gronfa hon, mae’r grŵp yn teimlo na ddylid eu crybwyll yn TAN 8. Fodd bynnag, maer grŵp yn teimlo y dylair taliadau fod yn orfodol, yn enwedig o ran yr agwedd lleihau carbon ar y buddion. 

Roedd y grŵp hefyd yn teimlo mae llwgrwobr i gymunedau a chynllunwyr oedd y gronfa gymunedol i ryw raddau. Er bod TAN 8 yn datgan y gall awdurdodau cynllunio fod yn ymwybodol or buddion cymunedol, ond na ddylent gael eu dylanwadu gan y wybodaeth honno, mae cylchlythyr y cwmni y tu ôl i’r fferm wynt bob amser yn cynnwys adran ar fuddion cymunedol, ac mae’r grŵp yn teimlo bod hyn o reidrwydd yn dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau o fewn yr awdurdod lleol. Nododd y grŵp fod clybiau pêl droed lleol a grwpiau meithrin y tu allan i Wyddgrug yn elwa or gronfa, ond bod y rhai syn cael eu heffeithio fwyaf gan y tyrbinau—sef trigolion Gwyddgrug—wedi cael ychydig o fudd o’r gronfa yn unig.

Roedd y grŵp hefyd yn teimlo y dylai iawndal fod ar gael i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y tyrbinau gwynt. Nid ydynt yn teimlo bod buddion cymunedol yn cyfri fel iawndal i’r rhai y mae eu hiechyd wedi dioddef oherwydd y sŵn. Disgrifiodd Mr a Mrs Dubé achos y teulu Davies yn Swydd Caerhirfryn a gymerodd bedair blynedd i ddod ag achos i ben ynghylch cael iawndal, a hynny ar ôl i’r teulu symud o’i gartref er mwyn dianc rhag y sŵn.

Mae’r grŵp yn argymell yn gryf y dylid cynnal adolygiad o TAN 8 a chanllawiau ETSU-R-97 oherwydd ei fod yn teimlo bod y dogfenni bellach angen eu diweddaru ac nid oes gan bobl leol hyder ynddynt. Nododd y grŵp fod rhaid cydbwyso ansawdd bywydau pobl â buddion fferm wynt ac y dylid defnyddio canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd yn lle, oherwydd eu bod yn cynnig terfyn uwch, mwy rhesymol ar lefelau sŵn derbyniol.

Er bod nifer o bobl yn teimlo bod gwrthwynebiad y grŵp wedii seilio ar olwg y tyrbinau gwynt, nododd y grŵp nad oedd hynny’n wir. Maent yn teimlo bod yr agwedd honno’n bychanu gwrthwynebiad y grŵp, oherwydd bod pobl yn diystyru eu profiadau o ran niwsans sŵn ac yn rhoir bai am wrthwynebiad yr aelodau ar y ffaith nad ydynt yn hoffi golwg y tyrbinau.  

Gofynnodd Joyce Watson a oedd y grŵp yn teimlo bod tirwedd yr ardal wedi achosi problemau sŵn penodol, ond er bod y grŵp wedi gwneud rhai astudiaethau, nid oedd aelodau’r grŵp yn ymwybodol o unrhyw astudiaethau manwl eraill.

Mynegodd y grŵp bryder bod tirfeddianwyr syn lleisio gwrthwynebiad i ffermydd gwynt yn cael eu tawelu gan fygythiad o achosion cyfreithiol yn eu herbyn.

Esboniodd Mr a Mrs Dubé bod y grŵp a sefydlwyd yn ffurfiol â chyfansoddiad wedii ffurfio ar ôl i Statkraft gael caniatâd ar gyfer safle Alltwalis. Roedd rhai aelodau wedi bod o blaid ffermydd gwynt, neu’n niwtral eu barn, cyn i’r tyrbinau gael eu lleoli, tra roedd eraill wedi bod yn eu herbyn.

Diolchodd yr Aelodau i Mr a Mrs Dubé am eu hamser.

 

 

Gwasanaeth y Pwyllgorau
Mis Mawrth 2012